Dyddiaduron William Bulkeley

Yn Archifau'r Brifysgol ym Mangor ceir dogfennau a elwir yn Ddyddiaduron Bulkeley, sydd ymysg y dystiolaeth ddogfennol bwysicaf sydd ar gael i'r sawl a fyn astudio hanes bywyd ar Ynys Môn yn y ddeunawfed ganrif. Mae'r gyfrol gyntaf o'r ddwy yn ymdrin â'r cyfnod 1734 - 1743, tra bo'r ail yn ymwneud â'r blynyddoedd 1747 - 1760. Nid yw trydedd gyfrol ar gyfer y cyfnod 1743 - 1747 wedi goroesi gwaetha'r modd. Mae'r ddwy gyfrol sydd ar gael yn cynnwys dros fil o dudalennau o lawysgrifen fechan, ond twt, sy'n rhoi golwg i ni ar fywyd mân sgweier y Brynddu, Llanfechell, Môn.

Ganwyd William Bulkeley ar 4 Tachwedd 1691 ac fe'i disgrifiwyd gan William Morris fel dyn caredig a gonest. Priododd â Jane Lewis a chafodd ddau o blant gyda hi, William (bu farw 1751) a Mary, a fu'n destun pryder a helbulon di-ben-draw, yn anad dim trwy ei phriodas â Fortunatus Wright, bragwr o Lerpwl a oedd hefyd yn anturiaethwr a môr-leidr. Fe wnaeth ei farwolaeth sydyn yn Yr Eidal adael Mary heb nemor geiniog ar ei helw ac yn faich ar ei thad unwaith yn rhagor.

Fel y gellir disgwyl, mae crynswth y dyddiaduron yn ymdrin â materion ffermio, fel pryd y dechreuodd aredig neu hel gwair. Nodwyd y cyflogau a dalwyd i weision a llafurwyr hefyd, yn ogystal â phrisiau nwyddau yn y farchnad. Cadwodd Bulkeley nodiadau dyddiol manwl hefyd am y tywydd a chyfeiriad y gwynt.

Fel aelod o ddosbarth yr uchelwyr disgwylid iddo gymryd rhan amlwg yng ngweinyddiaeth y sir ac fel Ustus Heddwch byddai'n mynychu'r Sesiynau Chwarter ym Miwmares neu'n gweinyddu cyfiawnder ei hun pe bai angen. Ar ddechrau'r gyfrol gyntaf nodir gwahanol achosion a oedd wedi gosod cynsail. Ceir disgrifiadau byw ganddo o ddulliau gweinyddu'r gyfraith. Mewn un man dywed fod y barnwr wedi cyrraedd y llys yn feddw ac ar adegau eraill roedd swyddogion yn absennol o'r sesiynau. Mae'n disgrifio hefyd y cymdeithasu a oedd yn digwydd pan oedd y llys yn cyfarfod a faint o arian a wariodd ei hun ar fwyd a diod i eraill.

Roedd yn cymryd rhan amlwg yn yr Eglwys Anglicanaidd ac, er nad oedd yn warden yn ei eglwys blwyf leol yn Llanfechell, eto roedd yn cyflawni llawer o ddyletswyddau'r swydd honno. Ceir amryw o sylwadau digon difrïol ganddo am bersoniaid lleol, yn arbennig ei berson ei hun yn Llanfechell, nad oedd fawr o bregethwr yn ôl Bulkeley. Mae rhai wedi dadlau fod ganddo gydymdeimlad â'r Methodistiaid cynnar er nad oes unrhyw beth yn y dyddiaduron i brofi hynny, ar wahân i un digwyddiad arwyddocaol pan brydlesodd fferm Clwchdernog ym mhlwyf Llanddeusant i William Pritchard, a ystyrir yn un o Anghydffurfwyr cyntaf Môn ac a oedd wedi cael ei erlid o sawl tenantiaeth oherwydd ei ddaliadau.

Rhoddodd sylw hefyd i ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol. Yn 1748 mae'n crybwyll Rhyfel yr Olyniaeth Awstriaidd a llofnodi Cytundeb Heddwch Aix-la-Chapelle a ddaeth â'r rhyfel hwnnw i ben. Yn 1752 ceir cofnod ganddo am y newid yng nghalendr Prydain ac Iwerddon o'r un Iwlaidd i'r un Gregoraidd, a olygodd golli un diwrnod ar ddeg o'r flwyddyn honno, gyda 14 Medi yn dilyn 2 Medi. Daeth yn rhyfel drachefn yn 1752, pan dorrodd yr hyn a adwaenir fel y Rhyfel Saith Mlynedd allan rhwng Prydain a Ffrainc a rhoddwyd cyfarwyddiadau i Bulkeley fel Ustus Heddwch i chwilio a chwalu drwy'r sir am 'forwyr crwydrol'.

O ran ei wleidyddiaeth un o'r Whigiaid oedd Bulkeley, er nad oedd yn llwyr ymroddedig i'r garfan honno chwaith. Mae ei gasineb tuag at Walpole yn amlwg a gellir ymdeimlo â'r boddhad yn ei eiriau pan glywodd bod Walpole wedi colli grym. Mae'n bur ddilornus o'r Torïaid gan gyfeirio atynt fel Jacobïaid. Eto, rhyw ddilorni ysgafn yn hytrach na dim mwy difrifol oedd hyn, ond gwaetha'r modd nid yw'r drydedd gyfrol, a oedd yn cynnwys cyfnod Gwrthryfel Jacobïaidd 1745, ar gael. Mae'n bur debyg y byddai honno wedi rhoi golwg ddiddorol i ni o'i farn ar y mater hwnnw.

Gallai etholiadau'r ddeunawfed ganrif fod yn ddigwyddiadau bywiog iawn, yn arbennig pan oedd mwy nag un ymgeisydd, ac mae'r pedwar etholiad a ddisgrifir ganddo yn rhoi darlun o'r llwgrwobrwyo agored, y llygredd a'r sgandal a nodweddai'r cyfnod. Roedd pleidleisio wedi ei seilio ar nawddogaeth a noda Bulkeley y teimlai reidrwydd i bleidleisio dros John Owen, Presaddfed, yn etholiad 1741 gan fod Meyrickiaid Bodorgan o'i blaid.

Drwy gydol haf 1760 roedd ei iechyd yn dirywio, a cheir y cofnod olaf yn y dyddiadur ar 28 Medi lle, fel arfer, mae'n nodi cyfeiriad y gwynt a chyflwr y tywydd. Claddwyd William Bulkeley yn eglwys Llanfechell ar 28 Hydref 1760 gan adael yn waddol gyfoeth gwirioneddol o wybodaeth yn ymwneud â bywyd mân sgweier ym Môn yn y ddeunawfed ganrif.

Hawlfraint © Archifau a'r Llyfrgell Gymreig, Prifysgol Bangor LL57 2DG